Dyma’r cyntaf yng nghyfres o flogpyst gan gyflwyno rhai o’r tafarndai mwyaf hanesyddol, llawn cymeriad a diddorol yng nghymoedd De Cymru.

Y Skirrid Inn

Skirrid Inn, MonmouthshireYn y pentref bach o Langfihangel Crucornau, rhwng Y Fenni a Phandy ar yr fordd i Henfordd, yw un o’r – efallai mai‘r – dafarn hynaf yng Nghymru. Gall y Skirrid Inn, sy’n tynnu ei henw o fersiwn wedi’i Angleiddio enw pâr o gribau Ysgyryd gerllaw, olrhain ei gwreiddiau ers bron milflwyddiant.

Ym 1175, ymwelodd William de Braose â’r Skirrid Inn dros y tymor Nadolig pan oedd e yn yr ardal er mwyn cael ei ddial am farwolaeth ei ewythyr, Henry de Boase, dan ddwylo pendefigion Cymreig. Fe gafodd William nifer o arglwyddiaethau yn Y Gororau, ledled De Cymru, yn Iwerddon, a Normandi ac ymgynghreiriai e â Sion Frenin. Gwahoddodd e rai o’r pendefigion Cymreig i Gastell y Fenni Ddydd Nadolig am wledd Nadolig. Wrth i’r pryd bwyd gael ei wasanaethu, gorchmynnodd William i’w ddynion lladd ei westeion Cymreig. 

Owain Glyndŵr, dyn didostur arall, oedd mynychwr arall y Skirrid ym 1404. Mai’r si y buasai e’n cyfarfod â chefnogwyr ei Wrthryfel yn erbyn Deyrnas Lloegr yn y dafarn, o flaen ysbeiliodd e’r Fenni a’i rhoi ar dân.

Yn bellach, defnyddiai’r Skirrid Inn fel llys lle roddai lladron pen ffordd a lladratwyr defaid ar dreial, ac roedd dyn didostur arall byth o fri ynghylch y dafarn. Danfonwyd George Jeffreys, ‘Y Barnwr Hoff o Grogi’, i farnu’r ‘Frawdlys Waedlyd’: treialau’r rheini a cymerodd ran yn Gwrthryfel Mynwy (enwyd fel y Gwrthryfel Bicwarch hefyd) a ymgeisodd i ddymchwel y Brenin Iago’r Ail. Grogwyd nifer o’r cannoedd a’u dedfrydwyd i’w marwolaeth yn y Skirrid Inn.

Gyda’r marwolaeth a barbareiddiwch hyn i gyd, ni synnem ni damaid y caiff ei hystyried fel un o’r tafarndai mwyaf bwgan yn y DU!

___________________

Mae’r Skirrid Inn yn gerllaw i Bandy, pentref genedigol Raymond Williams, ac mae tocynnau ar gael ar daith fws Ganmlwyddiant William yma: https://bit.ly/3PXWmEn