Yn rhan un o’r blogpost yma mae Dylan Jones o Lwybrau Cwrw y Cymoedd a Teithiau Cymru Dylan yn archwilio’r hanes cyfoethog o enwau tafarndai Cymraeg, yn cynnwys sawl yng nghymoedd y De.
Ergyd arall oedd caead Parc y Lan Inn yn Llanddewi Efelfre ger Arberth yn 2015, ddim yn unig i’r nifer o dafarndai ar agor o hyd yn Sir Benfro ond roedd yn arwyddocaol bod enwau Cymraeg ar arwyddion tafarndai ar eu ffordd i ddifodiant yn y gornel o Gymru. Mae sawl enwau tafarn wedi’u seisnigeiddio ac ail-adrodd gyda’r Saesneg, hyd yn oed yn y Fro Gymraeg.
Diolch byth fan arall yng Nghymru, mae enwau Cymraeg ar arfer ac hyd yn oed maen nhw’n ail-adrodd arwyddion Saesneg unieithog; er enghraifft Tafarn Y Barcud Coch yn Rhydaman sydd wedi ail-adrodd ei hen enw The Perrivale. Enghraifft arall yw’r Gwysaney Arms yn Rhydymwyn, Sir y Fflint; ei hen enw hi oedd The Antelope. Mae’r Tair Pluen yn enghraifft arall ym Mhen y Bont-ar-Ogwr a Chaerdydd. Tybed a fyddai hyn o ganlyniad o’r don newydd o falchder Cymreig ar ôl y bleidlais o blaid datganoliad ym 1997?
Pa beth bynnag y rheswm, mae arwyddion Cymraeg wedi bod yn benbleth i lawer o deithwyr flinedig yng Nghymru a’u drysu nhw lawr y canrifoedd. Fel mannau eraill ym Mhrydain, mae arwyddion wedi adlewyrchu traddodiadau, llên gwerin a rhamant y cyffiniau ac heb os mae’r iaith yn bendant wedi cyfoethogi arwyddion tafarndai yng Nghymru. Mae adar ac anifeiliad yn addurno llawer o arwyddion ledled y wlad nad yw’n rhyfedd gan fod cysylltiadau agos sydd gan tafarndai â gweithgareddau helfa a chwaraeon. Portreadir rasio milgwn ar arwydd Tafarn y Milgi yn Llannon, Sir Gâr. Nes iddi gau ei drysiau yn 2015 bu’r Cadno a’r Cŵn yng Nghwm Cuch ger Castell-newydd Emlyn yn cynrychioli’r traddodiad o hela’r cadno yng Ngheredigion.
Tafarn fyrhoedlog ar Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd oedd The Cadno a agorodd yn 2009 a chau ei drysau y flwyddyn nesaf a cafodd ei hail-enwi The Cricketers, yn gyson â’i lleoliad ger Clwb Criced Morgannwg. Enw un o’r tafarndai uchaf yng Nghymru yw Tafarn yr Oen a Cadno ym Mhwll-du ger Blaenafan.
Parhau gyda’r thema hela gellir gweld yr arwydd sy’n dyddio yn ôl i’r 16eg ganrif sydd gan y Tanat Valley Inn yn Llangynog ger Mynyddoedd y Berwyn. Yn ôl y chwedl tra oedd e’n hela ysgyfarnogod daeth Brochwel Yscythrog, Tywysog Powys, ar draws Melangell, merch brydferth brenin Gwyddelig. Er mwyn osgoi priodas orfod diangodd hi o Iwerddon ac addunedodd anweddogaeth yn y rhan yma o Gymru ac am y bymtheg mlynedd nesaf ni welodd hi gwyneb dyn. Ar y diwrnod hwn ymgysurodd yr ysgyfarnog wedi’i hela o dan ei gŵn a ni fyddai’r cŵn cyfarthgar yn gallu neu fod yn fodlon i neidio i’w lladd. Cynhyrfodd ei stori y Tywysog cymaint y rhoddodd e dir iddi yn syth er mwyn iddi adeiladu abaty a chyn bo hir daeth yn hafan i unrhwyun a fyddai’n ffoi yno. Fe’i chladdir gerllaw ym Mhennant Melangell ac, fel y mae’r arwydd yn arddangos, fe’i hadwaenir fel nawddsantes o fywyd gwyllt.
Yr hydd yw anifail arall a fyddai’n cael ei hela ac yn Llangernyw yw’r Hen Hydd yn gyfagos i Egwlys Sant Digain lle mae ywen 4,000 oed. Cafodd arfbais Richard II hydd gwyn ac mae tafarn gyda’r enw yna yng Nghenarth yn y Gorllewin ac nid yw’n syfrdanol yn yr ardal yna i weld cwrwgl yn hongian ar y mur allanol hefyd.
Gellir gweld Y Badd Glas yng Nghaerfyrddin; ac hefyd yn Y Gelli, ond heb yr arysgrifiad Cymraeg. Portreadir grugiar ar arwydd y dafarn o’r un enw yng Ngharrog a fu’n fferm a bragdy.
Yn rhan dau o’r blogpost yma bydd Dylan yn edrych ar amlygrwydd yr anifail sy’n fwyaf cyffredin ar arwyddion tafarndai Cymraeg – y llew – yr anifail sy’n ddynodedig yn agos gydag un o’r cewri o hanes Cymru.
Pob llun: Dylan Jones